Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Fideogynhadledd drwy Zoom

Dyddiad: Dydd Llun, 1 Tachwedd 2021

Amser: 14.00 - 15.12
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
12488


On site

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Jack Sargeant AS (Cadeirydd)

Luke Fletcher AS

Joel James AS

Tystion:

Staff y Pwyllgor:

Gareth Price (Clerc)

Mared Llwyd (Ail Glerc)

Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS.

</AI1>

<AI2>

2       Deisebau newydd

</AI2>

<AI3>

2.1   P-06-1187 Dylid cynnig brechiad Covid-19 i blant sy'n agored i niwed yn glinigol

Nododd y Pwyllgor fod pob bwrdd iechyd bellach yn gwahodd plant 12-17 oed i gael eu brechu, a bod y camau y mae’r ddeiseb yn galw amdanynt bellach yn cael eu cymryd. Cytunodd y Pwyllgor i longyfarch y deisebydd a chau'r ddeiseb.

</AI3>

<AI4>

2.2   P-06-1193 Gofynnwch i Lywodraeth y DU am ganiatâd i gynnal refferendwm ar ddychwelyd pwerau datganoledig

Cytunodd yr Aelodau, o ystyried ymateb y Prif Weinidog a rôl y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru i edrych ar bob opsiwn drwy ymgysylltu â phobl Cymru, nad oedd fawr ddim pellach y gallai'r Pwyllgor ei wneud ar hyn o bryd. Gan hynny, cytunodd i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

</AI4>

<AI5>

2.3   P-06-1194 Deddfu i roi’r hawl i rydd-ddeiliaid mewn eiddo sydd newydd eu hadeiladu yr hawl i reoli eu hystadau eu hunain

Nododd y Pwyllgor fod y deisebydd yn fodlon ar ymateb y Gweinidog. Gan hynny, cytunodd i ddiolch i’r deisebydd am amlygu’r mater a chau’r ddeiseb.

</AI5>

<AI6>

2.4   P-06-1195 Cynnal ymchwiliad annibynnol i farwolaeth Glyn Summers a gweithredoedd Coleg y Cymoedd

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Roedd y deisebydd wedi cysylltu ag ef yn flaenorol ar y mater hwn.

 

Nododd yr Aelodau ymateb y Gweinidog, gan gytuno ei bod yn anodd gweld llawer o le i symud ymlaen gydag ymchwiliad annibynnol. Fodd bynnag, cytunodd yr Aelodau i drefnu cyfarfod gyda'r deisebydd, i drafod a oes elfennau eraill o'r ymgyrch y gellid eu dwyn ymlaen.

</AI6>

<AI7>

2.5   P-06-1197 Gwasanaeth sgrinio’r galon am ddim i bob plentyn rhwng 11 a 35 oed sy'n cynrychioli ei ysgol neu sir mewn chwaraeon

Nododd y Pwyllgor fod dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â'r mater hwn yn seiliedig ar gyngor gan y Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol, sydd o’r farn nad yw sgrinio o'r fath yn briodol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru i rannu barn y deisebydd a gofyn iddi ystyried cynnal astudiaeth hydredol benodol i Gymru am y rhesymau a amlinellwyd gan y deisebydd.

</AI7>

<AI8>

2.6   P-06-1200 Dylid gwneud rhwymo ceffylau yn anghyfreithlon ac yn weithred o greulondeb yng Nghymru, ni waeth a oes gan y ceffylau gysgod neu beidio

Nododd y Pwyllgor fod ymateb y Gweinidog yn nodi bod ceffylau yn cael eu diogelu o dan ddeddfwriaeth yng Nghymru ac y dylai pryderon gael eu codi gyda’r awdurdod lleol. Fodd bynnag, er bod ceffylau yn cael eu diogelu o dan ddeddfwriaeth yng Nghymru, nododd y Pwyllgor fod y deisebydd yn mynegi pryder difrifol ynghylch y diffyg gorfodi.

 

Felly, cytunodd y Pwyllgor i ofyn am wybodaeth bellach gan sefydliadau lles anifeiliaid ynghylch yr arfer hwn yng Nghymru ac am unrhyw bryderon o ran gorfodi'r gyfraith.

</AI8>

<AI9>

2.7   P-06-1201 Gwahardd saethu rhywogaethau adar sydd mewn perygl difrifol a rhoi’r diogelwch sydd ei angen mor daer arnynt!

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n aelod o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain (BASC).

 

Nododd y Pwyllgor fod y Gweinidog wedi gofyn am ragor o dystiolaeth cyn cymryd unrhyw gamau pellach, megis ystyried dileu rhywogaethau o’r rhestr goch i’w hamddiffyn rhag cael eu saethu. Cytunodd y Pwyllgor, felly, i ysgrifennu at yr RSPB a sefydliadau perthnasol eraill i geisio eu barn ar y mater.

</AI9>

<AI10>

2.29 P-06-1202 Dylid gwahardd lladd cywion diwrnod oed yng Nghymru

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Roedd y deisebydd wedi cysylltu ag ef yn flaenorol.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu i ofyn am farn arbenigol ac eglurhad pellach ar y mater hwn, cyn penderfynu sut i fwrw ymlaen â’r ddeiseb hon.

</AI10>

<AI11>

2.9   P-06-1205 Buddsoddwch mewn amddiffynfeydd llifogydd ar y Tywi yng Nghaerfyrddin gan gynnwys ardal y Cei

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru i gael gwybod a oes cynllun llifogydd yn cael ei ddwyn ymlaen mewn perthynas â'r Tywi.

</AI11>

<AI12>

2.10P-06-1209 Dylid creu rhestr o bob gofalwr di-dâl yng Nghymru

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n adnabod y deisebydd.

 

Nododd y Pwyllgor, er bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella ymwybyddiaeth a chefnogaeth, nad yw'r mater o nodi gofalwyr wedi'i ddatrys eto. Felly derbyniodd y Pwyllgor gynnig y Dirprwy Weinidog i adrodd yn ôl yn dilyn trafodaeth bellach gan Grŵp Cynghorir Gweinidog.

 

Roedd yr Aelodau'n am gofnodi eu diolch i'r holl ofalwyr di-dâl am eu gwaith.

</AI12>

<AI13>

3       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI13>

<AI14>

3.1   P-05-954 Deiseb yn galw am ymchwiliad cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru i gam-drin plant hanesyddol ar Ynys Byr

Er y cafwyd rhywfaint o wybodaeth ychwanegol ers mis Rhagfyr 2020, nododd y Pwyllgor nad yw'n ymddangos yn ddigon sylweddol i newid meddwl Llywodraeth Cymru, felly cytunodd o’i anfodd i gau'r ddeiseb.

</AI14>

<AI15>

3.2   P-06-1203 Peidiwch â chyflwyno pasbortau brechlyn COVID-19 ar gyfer lleoliadau manwerthu a lletygarwch neu leoliadau eraill

O ystyried bod y mater hwn wedi cael ei drafod a'i gymeradwyo yn y Senedd, a'i fod ar waith ers hynny, nododd y Pwyllgor nad oedd unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

</AI15>

<AI16>

3.3   P-05-1003 Mynnu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi’i halogi’n radiolegol yn nyfroedd Cymru.

Nododd y Pwyllgor ei fod wedi trafod y ddeiseb ar sawl achlysur a bod y ddeiseb hefyd wedi cael ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn. Daethpwyd i’r casgliad na ellir dweud yn glir beth arall y gellid ei wneud ar y mater hwn. Gan hynny, cytunodd i ddiolch i’r deisebwyr a chau’r ddeiseb.

</AI16>

<AI17>

3.4   P-05-1071 Dylid argraffu rhif cofrestru cerbydau ar becynnau bwyd brys a werthir drwy ffenest y car

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n adnabod y deisebydd.

 

Cytunodd y Pwyllgor nad oedd yn glir pa gamau pellach y gellid eu cymryd ar y mater hwn, gan nodi bod rhai camau gan y Llywodraeth i fynd i'r afael â'r broblem sylfaenol. Gan hynny, cytunodd i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

</AI17>

<AI18>

3.5   P-05-1083 Dylid gwarchod lesddeiliaid yng Nghymru rhag talu am waith adfer cladin

Er i’r Pwyllgor nodi nad oedd y mater hwn wedi cael ei gwblhau’n llawn, cytunodd ei fod wedi cyrraedd man addas i nodi bod gwaith ar y trywydd iawn. Gan hynny, cytunodd i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

</AI18>

<AI19>

3.6   P-05-1073 Sefydlu ac adeiladu cangen newydd o Amgueddfa Cymru sy’n canolbwyntio ar ran Cymru mewn trefedigaethedd

Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n adnabod y deisebydd.

 

Nododd y Pwyllgor ymateb y Gweinidogion a'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn, a’r ffaith y bydd camau pellach yn y dyfodol. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ddiolch i'r deisebydd am y gwaith y mae wedi'i wneud i godi ymwybyddiaeth o'r materion, a chau'r ddeiseb.

</AI19>

<AI20>

3.7   P-05-1086 Dylid creu Amgueddfa Genedlaethol ar gyfer Hanes a Threftadaeth Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Cytunodd y Pwyllgor i nodi ymateb y Gweinidog a’r cyllid ar gyfer rolau i hyrwyddo a dathlu hanes pobl Dduon. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Gyfnewidfa Dreftadaeth a Diwylliannol yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau ynghylch cartref parhaol ar gyfer casgliad Tiger Bay, ac unrhyw faterion cysylltiedig.

</AI20>

<AI21>

3.8   P-05-1130 Dylai Llywodraeth Cymru ail-brynu ac adnewyddu Coleg Harlech

Nododd y Pwyllgor fod yr adeilad wedi cael ei werthu, a mynegodd y gobaith y gall y perchnogion newydd weithio gydag ymgyrchwyr i ddatblygu'r safle er budd y gymuned. Nododd y Cadeirydd angerdd y deisebwyr a oedd wedi ysgrifennu i gefnogi'r ddeiseb. Gan hynny, cytunodd i ddiolch i’r deisebwyr a chau’r ddeiseb.

</AI21>

<AI22>

3.9   P-05-1133 Dylid addasu maes llafur hyfforddiant athrawon i gynnwys Hyfforddiant Trawsnewidiol a Deallusrwydd Emosiynol

Nododd y Pwyllgor fod y Gweinidog wedi nodi sut y mae'n ceisio cefnogi gweithwyr addysg proffesiynol yn ystod y cyfnod tra heriol hwn, felly cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.

</AI22>

<AI23>

4       Trafodaeth bellach ar y trothwy llofnodion

Ar ôl ystyried yr holl ddata, ac argymhelliad y pwyllgor blaenorol, cytunodd yr Aelodau fod cyfiawnhad dros newid yn y trothwy llofnodion i ddeiseb gael ei thrafod gan y Pwyllgor, ac y dylid newid y trothwy i 250 o lofnodion. Cytunodd yr Aelodau hefyd i newid y trothwy erbyn dechrau'r flwyddyn newydd ym mis Ionawr 2022. Bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes yn argymell y newid perthnasol i Reol Sefydlog 23.4(i)

</AI23>

<AI24>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 6.

Derbyniwyd y cynnig.

</AI24>

<AI25>

6       Cynllunio Llwyth Gwaith y Pwyllgor yn y Dyfodol

Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith a chytunodd i wahodd tystion i roi tystiolaeth mewn perthynas â deiseb P-06-1224 Dylunio cynllun peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol ‘Ymadawyr Gofal a Mwy’ sy'n cynnwys amrywiaeth o bobl. Bydd sesiynau tystiolaeth yn cael eu cynnal ar 15 a 29 Tachwedd.

</AI25>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>